Ein Cysylltiadau

Cwmnïau  mae Ymgynghorwyr Lisk & Jones a pherthynas agos iawn â hwy:

Emerald Research Ltd – Cwmni sy’n arbenigo mewn maeth cnydau, biostimulantiaid amicro-organebau.

Mae Owen yn aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ac yn helpu yn ei weithgareddau datblygu busnes.

https://www.emeraldresearchltd.com/

Naturiol Bangor Cyf  – Cwmni sefydlwyd yn 2014 ac yn deilliedig o Brifysgol Bangor sy’n arbenigo mewn

  • cemegau platfform gwerth uchel o blanhigion cynhenid
  • saponins o blanhigion cynhenid ac asidau brasterog anarferol
  • ymchwil i gynhyrchion newydd amaethyddol

Mae Owen yn aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ac yn helpu yn ei weithgareddau datblygu busnes.

https://naturiol.uk/

Menter a Busnes Cyf. – Cwmni nid-er-elw sy’n ymroddi i ddatblygu economaidd ac entrepreneuriaeth gyda sylw ddaearyddol eang yng Nghymru drwy 6 swyddfeydd rhanbarthol. Mae Owen wedi bod yn aelod anweithredol o fwrdd cyfarwyddwyr Menter a Busnes ers 2003 ac ef oedd cadeirydd am 3 blynedd. Ymddeolodd o’r bwrdd ym mis Mai 2022 ond mae’n cadw cysylltiadau cryf â’r cwmni

https://menterabusnes.cymru/home/

Cymdeithas Rhyngwladol Cynhyrchwyr  Bio-blaladdwyr (IBMA). Dyma’r corff diwydiant sy’n cynrychioli, ar sail byd-eang, pob cwmni sy’n ymwneud â masnacheiddio cynhyrchion biolegol ar gyfer rheoli plâu. Bu Owen yn llywydd IBMA am 2 flynedd, is-lywydd am 3 blynedd ac mae hefyd wedi bod yn aelod o amryw bwyllgorau IBMA ers ei ffurfio yn 1995.

https://ibma-global.org/

 

Cynghorau Ymchwil y DU

NERC – Natural Environment Research Council

Ers 2007, mae Owen wedi bod yn aelod o’r Panel sy’n gwerthuso ceisiadau am arian i Brofi  Cysyniad (Proof of Concept). Mae’r gronfa hon wedi ei sefydlu  i gefnogi masnacheiddio syniadau a chynhyrchion syn deillio o ymchwil a gefnogwyd eisoes ganNERC. Mae’r Panel yn asesu cynigion ac yn gwneud argymhellion am eu ariannu.

https://nerc.ukri.org/

BBSRC

Cafodd Owen ei benodi yn 2014 i fod yn aelod o’r pwyllgor adolygu ac asesu cynigion am  grantiau a gyflwynwyd i’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC)

https://bbsrc.ukri.org/

UKRI – Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol

Mae’r cynllun ymchwil ac arloesi hwn yn cefnogi ymchwilwyr ac arloeswyr gyrfa cynnar ar draws y DU sydd gyda potensial eithriadol mewn prifysgolion, busnesau cofrestredig yn y DU, ac amgylcheddau ymchwil a defnyddwyr eraill gan gynnwys sefydliadau a labordai y cynghorau ymchwil. Ers 2019 Mae Owen wedi bod ar y panel cymedroli i ddewis ymgeiswyr addas.

www.ukri.org/funding/funding-opportunities/future-leaders-fellowships/

IVCC (Consortiwm arloesol rheoli fectorau clefydau)

Ers 2015 mae Owen wedi bod yn aelod o ddau bwyllgor cynghori gwyddonol allanol (ESACs) yr IVCC sydd â’r nod o greu atebion newydd i rwystro pryfed rhag trosglwyddo clefydau. Cenhadaeth IVCC yw achub bywydau, diogelu iechyd a chynyddu ffyniant mewn ardaloedd lle mae clefydau a drosglwyddir gan bryfed yn endemig.

www.ivcc.com/