Newyddion

Athro er Anrhydedd, Ysgol Cemeg, Prifysgol Caerdydd 

Rwy’n falch iawn o gyhoeddi fy mod heddiw wedi derbyn hysbysiad bod Prifysgol Caerdydd wedi rhoi’r teitl Athro Er Anrhydedd yn yr Ysgol Cemeg i mi am y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn wir yn anrhydedd fawr i mi ac mae’n adeiladu ar y cydweithio sydd gennyf eisoes gyda’r Ysgol a’r Athro John Pickett yn arbennig ar brosiectau amrywiol mewn ecoleg gemegol gymhwysol. Dyddiau difyr! 

04/09/2023 

POSTCOVA

Mae POSTCOVA yn rhaglen ymchwil 12 mis a gefnogir trwy gyllid gan Innovate UK i ddatblygu atebion fydd yn sicrhau adferiad ar ôl COVID a chynnydd cynaliadwy mewn cynnyrch llysiau, ansawdd a chnydau yng Nghymru gan ddarparu cyfleoedd arallgyfeirio a gwydnwch ar gyfer ffermio a chyflogaeth a herir gan bwysau COVID-19 a Brexit.

Daeth y prosiect i ben ym mis Medi 2021 ac i gael rhagor o wybodaeth am y cyfranogwyr, y canlyniadau a’r gweithgareddau yn y dyfodol dilynwch y ddolen hon i wefan Emerald Research https://www.emeraldresearchltd.com/research-trials-into-crop-nutrition-crop-growth/ ac ar gyfer diweddariadau prosiect https://www.emeraldresearchltd.com/postcova-project-update/

ADRODDIAD MARCHNAD BYD-EANG FFEROMONAU

Yn ystod 2021 mae Ymgynghorwyr Lisk &Jones wedi bod yn cydweithio â Dunham Trimmer LLC i lunio adroddiad cynhwysfawr ar y farchnad bresennol ac yn y dyfodol ar y defnydd o Fferomonau yn fyd-eang. Gan gwmpasu bron i 400 o dudalennau, mae’r Adroddiad Marchnad digynsail hwn yn cynnig safbwynt y delfrydwr ar y Farchnad Fferomonau Byd-eang i helpu i ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes gadarn.

https://dunhamtrimmer.com/products/pheromone-global-market-report/

Chwilen Gotwm

Ymgynghorwyr Lisk & Jones yw’r partner arweiniol mewn prosiect a ariennir gan Innovate UK Newton i ddatblygu technoleg denu a lladd ar gyfer y chwilen gotwm (Anthonomus grandis) sy’n bla difrifol mewn cotwm yng Ngogledd, Canolbarth a De America. Mae’r prosiect o’r enw Lleihau llygredd plaladdwyr mewn dŵr tanddaearol yn cynnwys pedwar partner diwydiannol a thri phartner academaidd o’r DU ac un partner diwydiannol ac asiantaeth hyfforddi cenedlaethol SENAI ym Mrasil. Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd 2016 a bydd yn parhau tan ganol 2019. Mae’r prosiect wedi gwneud cynnydd da yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf ac mae wedi arwain at dechnoleg newydd i ddenu a lladd y chwilen gotwm a mae cais am batent arno wedi ei gofrestru, Cymerwyd y ffotograffau yn yr adran newyddion hon yn ystod ymweliad ym mis Mawrth gan Owen Jones a Robin Jones i rai o’r ardaloedd tyfu cotwm ym Mrasil lle mae’r chwilen  yn bla difrifol. Disgrifir y prosiect yn fanylach ar wefan benodol a gynhelir gan Brifysgol Bangor, sef un o’r partneriaid yn y prosiect: http://biocontrol.bangor.ac.uk