Meysydd lle rydym yn darparu arbenigedd:
- Entomoleg Gymhwysol – rheoli plâu mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Iechyd y Cyhoedd, Cartref a Gardd
- Semiogemegau – fferomonau, atynwyr a ymlidwyr, eu synthesis, rhyddhau dan reolaeth a’u defnydd yn y maes
- Bio-blaladdwyr i Ddiogelu Planhigion gan gynnwys y rhai sy’n seiliedig ar firysau, bacteria, ffyngau, nematodau a semiogemegau
- Gwrteithiad Planhigion – microelfennau, bio-stimulantiaid
- Trwy ein cysylltiadau â Phrifysgolion y DU rydym yn gallu darparu gwasanaethau mewn dadansoddi cemegol, adnabod cyfansawdd, astudiaethau rhyddhau cemegolion dan reolaeth trwy ddefnyddio polymerau confensiynol ac bioddiraddadwy
- Gweithgynhyrchu prototeip ar raddfa fach o ddyfeisiadau rhyddhau cemegau dan reolaeth
Dyma’r mathau o ymgynghoriaethau rydym yn eu darparu:
- Gwerthusiadau Technoleg
- Gwerthusiadau Portffolio Cynnyrch
- Dehongli’r Llwybr i’r Farchnad i gynhyrchion newydd
- Gwerthusiadau Marchnad
- Cyfleoedd mewn marchnadoedd newydd
- Datblygu Strategaeth ar gyfer cofrestru cynhyrchion newydd gyda gwahannol awdurdodau ym Mhrydain ac ar y Cyfandir
- Paratoi cynllun busnes
- Gwerthuso Ceisiadau prosiect
- Gwerthuso prosiectau a gwblhawyd
- Cymeryd rhan mewn byrddau cynghori technegol ar gyfer prosiectau rhyngwladol ac yn y DU
- Rhedeg cyrsiau hyfforddi mewn semiogemegau, bio-blaladdwyr a Rheoli Pla Integredig (IPM)
- Trefnu a goruchwylio treialon maes yn Ewrop