Ymgynghorwyr

Dr Owen Jones

Cyn ymuno a Lisk a Jones llawn amser yn 2012 Owen oedd yn gyfrifol am Strategaeth Fyd-eang yn Suterra LLC tra’n gweithio yn AgriSense BCS Ltd, Pontypridd, oedd y pryd hynny yn is-gwmni i Suterra LLC, Oregon, UDA . Owen oedd un o syfaenwyr AgriSense yn 1984 i ddatblygu a marchnata systemau monitro a rheoli pryfed yn seiliedig ar fferomonau. Mae AgriSense erbyn hyn yn rhan o Pelsis Ltd [https://www.pelsis.com]. Owen oedd yn gyfrifol am faterion technegol a gwyddonol o fewn y cwmni. Roedd yn cysylltu â phartneriaid ymchwil a datblygu allanol yn ogystal â chyfarwyddo gweithgareddau datblygu cynhyrchion newydd o fewn y cwmni. Yr oedd hefyd yn Llywydd Cymdeithas Ryngwladol Cynhyrchwyr Bio-bla-laddwyr (International Biocontrol Manufacturers’ Association – IBMA) am ddwy flynedd hyd at fis Rhagfyr 2012 ac ar fwrdd IBMA am 5 mlynedd cyn hynny.

Cyn ymuno ag AgriSense fel ei Gyfarwyddwr Technegol a chyd-sylfaenydd yn 1984, treuliodd saith mlynedd yn yr Uned Entomoleg Cemegol, Prifysgol Southampton, fel uwch entomolegydd ymchwil. Mae cymwysterau academaidd Owen yn cynnwys Gradd Gwyddoniaeth o Brifysgol Bangor a Doethuriaith o Brifysgol Caergrawnt (Coleg Churchill). Mae Owen wedi bod yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol Entomolegol Llundain ers 1978, Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd ac yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor ers 2007.

Mae Owen wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion a llyfrau testun gwyddonol ar Reoli Pla Integredig ac yn cael ei wahodd yn rheolaidd i roi sgyrsiau am y pwnc neu i gadeirio cunhadleddau ar y dechnoleg. Mae hefyd a diddordeb mawr yn y maes Trosglwyddo Technoleg rhwng Academia a Diwydiant ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgorau llywio o fudiadau a mentrau a sefydlwyd i hwyluso’r broses.

Rheoli’r broses o drosglwyddo ymchwil a thechnoleg i ddiwidiant yw un o gryfderau allweddol Owen sy’n esponio pam ei fod yn cael ei alw gan nifer o gleientiaid i reoli prosesau o’r fath.

Dr Jennifer Lisk

Cyn sefydlu Ymgynghorwyr Lisk a Jones, mae Jenny wedi gweithio i Uned Entomoleg Cemegol, Prifysgol Southampton fel cynorthwyydd ymchwil, IBM UK fel peiriannydd systemau, yn Ambiensis Cyf, cwmni deori technoleg fel ymchwilydd labordy ac yn Jenesys Associates Ltd fel cydlynydd ymchwil yn ymwneud yn bennaf â phrosiectau yn y sector gwyddorau bywyd. Mae cymwysterau academaidd Jenny a gafwyd ym Mhrifysgol Southampton yn cynnwys Gradd Gwyddoniaeth mewn Gwyddor yr Amgylchedd a Doethuriaeth mewn cyfathrebu fferomon mewn pryfed.

Mae gan Jenny cyfuniad unigryw o sgiliau ymchwil yn y gwyddorau bywyd, yn ogystal â gwybodaeth mewn Technoleg Gwybodaeth. Mae gan Jenny dros 25 mlynedd o brofiad o ymchwil a datblygu, deori technoleg a masnacheiddio. Mae hi wedi rheoli nifer o brosiectau sy’n cynnwys ymchwil i dechnoleg newydd, ymchwil a gwethusiadau  marchnad, diffinio llwybrau i’r farchnad i gynhyrchion newydd,  a rheoli cronfeudd ddata.